SL(6)555 – Rheoliadau’r Amgylchedd Hanesyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau sy’n cywiro gwallau, neu’n egluro darpariaeth a wnaed, yn y tri offeryn a ganlyn sy’n rhoi Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ar waith:

§  Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024,

 

§  Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024,

 

§  Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024.

Er enghraifft, mae’r Rheoliadau hyn:

§  yn darparu eglurder drwy nodi’n union ble y dylid mewnosod rhai diwygiadau,

 

§  yn sicrhau cysondeb rhwng ystyr y testunau Cymraeg a Saesneg,

 

§  yn gwella strwythur drafftio rhai o’r darpariaethau er mwyn darparu mwy o eglurder.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Gwneir y rheoliadau hyn mewn ymateb i wallau a nodwyd yn adroddiadau’r Pwyllgor hwn ar yr offerynnau a ganlyn, a’r eglurhad sy’n ofynnol yn sgil yr adroddiadau hyn:

§  Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024,

 

§  Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024,

 

§  Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

12 Rhagfyr 2024